9 Ni chymeraf fustach o'th dŷ,na bychod geifr o'th gorlannau;
10 oherwydd eiddof fi holl fwystfilod y goedwig,a'r gwartheg ar fil o fryniau.
11 Yr wyf yn adnabod holl adar yr awyr,ac eiddof fi holl greaduriaid y maes.
12 Pe bawn yn newynu, ni ddywedwn wrthyt ti,oherwydd eiddof fi'r byd a'r hyn sydd ynddo.
13 A fwytâf fi gig eich teirw,neu yfed gwaed eich bychod geifr?
14 Rhowch i Dduw offrymau diolch,a thalwch eich addunedau i'r Goruchaf.
15 Os gelwi arnaf yn nydd cyfyngderfe'th waredaf, a byddi'n fy anrhydeddu.”