1 O ŵr grymus, pam yr ymffrosti yn dy ddrygioniyn erbyn y duwiol yr holl amser?
2 Yr wyt yn cynllwyn distryw;y mae dy dafod fel ellyn miniog,ti dwyllwr.
3 Yr wyt yn caru drygioni'n fwy na daioni,a chelwydd yn fwy na dweud y gwir.Sela
4 Yr wyt yn caru pob gair difaolac iaith dwyllodrus.
5 Bydd Duw'n dy dynnu i lawr am byth,bydd yn dy gipio ac yn dy dynnu o'th babell,ac yn dy ddadwreiddio o dir y byw.Sela
6 Bydd y cyfiawn yn gweld ac yn ofni,yn chwerthin am ei ben ac yn dweud,