15 “Doed marwolaeth arnynt;bydded iddynt fynd yn fyw i Sheol,am fod drygioni'n cartrefu yn eu mysg.
16 Ond gwaeddaf fi ar Dduw,a bydd yr ARGLWYDD yn fy achub.
17 Hwyr a bore a chanol dyddfe gwynaf a griddfan,a chlyw ef fy llais.
18 Gwareda fy mywyd yn ddiogelo'r rhyfel yr wyf ynddo,oherwydd y mae llawer i'm herbyn.
19 Gwrendy Duw a'u darostwng—y mae ef wedi ei orseddu erioed—Sela“am na fynnant newid nac ofni Duw.
20 “Estynnodd fy nghydymaith ei law yn erbyn ei gyfeillion,torrodd ei gyfamod.
21 Yr oedd ei leferydd yn esmwythach na menyn,ond yr oedd rhyfel yn ei galon;yr oedd ei eiriau'n llyfnach nag olew,ond yr oeddent yn gleddyfau noeth.