19 Gwrendy Duw a'u darostwng—y mae ef wedi ei orseddu erioed—Sela“am na fynnant newid nac ofni Duw.
20 “Estynnodd fy nghydymaith ei law yn erbyn ei gyfeillion,torrodd ei gyfamod.
21 Yr oedd ei leferydd yn esmwythach na menyn,ond yr oedd rhyfel yn ei galon;yr oedd ei eiriau'n llyfnach nag olew,ond yr oeddent yn gleddyfau noeth.
22 “Bwrw dy faich ar yr ARGLWYDD,ac fe'th gynnal di;ni ad i'r cyfiawn gael ei ysgwyd byth.
23 Ti, O Dduw, a'u bwria i'r pwll isaf—rhai gwaedlyd a thwyllodrus—ni chânt fyw hanner eu dyddiau.Ond ymddiriedaf fi ynot ti.”