8 “brysiwn i gael cysgodrhag y gwynt stormus a'r dymestl.”
9 O Dduw, cymysga a rhanna'u hiaith,oherwydd gwelais drais a chynnen yn y ddinas;
10 ddydd a nos y maent yn ei hamgylchu ar y muriau,ac y mae drygioni a thrybini o'i mewn,
11 dinistr yn ei chanol;ac nid yw twyll a gorthrwmyn ymadael o'i marchnadfa.
12 “Ond nid gelyn a'm gwawdiodd—gallwn oddef hynny;nid un o'm caseion a'm bychanodd—gallwn guddio rhag hwnnw;
13 ond ti, fy nghydradd,fy nghydymaith, fy nghydnabod—
14 buom mewn cyfeillach felys â'n gilyddwrth gerdded gyda'r dyrfa yn nhŷ Dduw.