6 Ymgasglant at ei gilydd a llechu,ac y maent yn gwylio fy nghamre.
7 Fel y disgwyliant am fy mywyd,tâl iddynt am eu trosedd;yn dy ddig, O Dduw, darostwng bobloedd.
8 Yr wyt ti wedi cofnodi fy ocheneidiau,ac wedi costrelu fy nagrau—onid ydynt yn dy lyfr?
9 Yna troir fy ngelynion yn eu hôlyn y dydd y galwaf arnat.Hyn a wn: fod Duw o'm tu.
10 Yn Nuw, yr un y molaf ei air,yn yr ARGLWYDD, y molaf ei air,
11 yn Nuw yr wyf yn ymddiried heb ofni;beth a all pobl ei wneud imi?
12 Gwneuthum addunedau i ti, O Dduw;fe'u talaf i ti ag offrymau diolch.