1 Chwi gedyrn, a ydych mewn difri'n dedfrydu'n gyfiawn?A ydych yn barnu pobl yn deg?
2 Na! Yr ydych â'ch calonnau'n dyfeisio drygioni,ac â'ch dwylo'n gwasgaru trais dros y ddaear.
3 Y mae'r drygionus yn wrthryfelgar o'r groth,a'r rhai sy'n llefaru celwydd yn cyfeiliorni o'r bru.
4 Y mae eu gwenwyn fel gwenwyn sarff,fel asb fyddar sy'n cau ei chlustiau,
5 a heb wrando ar sain y swynwrsy'n taenu ei hudoliaeth ryfedd.