4 Y mae eu gwenwyn fel gwenwyn sarff,fel asb fyddar sy'n cau ei chlustiau,
5 a heb wrando ar sain y swynwrsy'n taenu ei hudoliaeth ryfedd.
6 O Dduw, dryllia'r dannedd yn eu genau,diwreiddia gilddannedd y llewod, O ARGLWYDD.
7 Bydded iddynt ddiflannu fel dŵr a mynd ymaith,a chrino fel gwellt a sethrir;
8 byddant fel erthyl sy'n diflannu,ac fel marw-anedig na wêl olau dydd.
9 Cyn iddynt wybod bydd yn eu diwreiddio;yn ei ddig bydd yn eu sgubo ymaith fel chwyn.
10 Bydd y cyfiawn yn llawenhau am iddo weld dialedd,ac yn golchi ei draed yng ngwaed y drygionus.