5 a heb wrando ar sain y swynwrsy'n taenu ei hudoliaeth ryfedd.
6 O Dduw, dryllia'r dannedd yn eu genau,diwreiddia gilddannedd y llewod, O ARGLWYDD.
7 Bydded iddynt ddiflannu fel dŵr a mynd ymaith,a chrino fel gwellt a sethrir;
8 byddant fel erthyl sy'n diflannu,ac fel marw-anedig na wêl olau dydd.
9 Cyn iddynt wybod bydd yn eu diwreiddio;yn ei ddig bydd yn eu sgubo ymaith fel chwyn.
10 Bydd y cyfiawn yn llawenhau am iddo weld dialedd,ac yn golchi ei draed yng ngwaed y drygionus.
11 A dywed pobl, “Yn ddios y mae gwobr i'r cyfiawn;oes, y mae Duw sy'n gwneud barn ar y ddaear.”