1 Gwared fi oddi wrth fy ngelynion, O fy Nuw;amddiffyn fi rhag fy ngwrthwynebwyr.
2 Gwared fi oddi wrth wneuthurwyr drygioni,ac achub fi rhag rhai gwaedlyd.
3 Oherwydd wele, gosodant gynllwyn am fy einioes;y mae rhai cryfion yn ymosod arnaf.Heb fod trosedd na phechod ynof fi, ARGLWYDD,
4 heb fod drygioni ynof fi, rhedant i baratoi i'm herbyn.Cyfod, tyrd ataf ac edrych.
5 Ti, ARGLWYDD Dduw y lluoedd, yw Duw Israel;deffro a chosba'r holl genhedloedd;paid â thrugarhau wrth y drygionus dichellgar.Sela
6 Dychwelant gyda'r nos, yn cyfarth fel cŵnac yn prowla trwy'r ddinas.