5 Oherwydd nid oes cofio amdanat ti yn angau;pwy sy'n dy foli di yn Sheol?
6 Yr wyf wedi diffygio gan fy nghwynfan;bob nos y mae fy ngwely'n foddfa,trochaf fy ngobennydd â'm dagrau.
7 Pylodd fy llygaid gan ofid,a phallu oherwydd fy holl elynion.
8 Ewch ymaith oddi wrthyf, holl wneuthurwyr drygioni,oherwydd clywodd yr ARGLWYDD fi'n wylo.
9 Gwrandawodd yr ARGLWYDD ar fy neisyfiad,ac y mae'r ARGLWYDD yn derbyn fy ngweddi.
10 Bydded cywilydd a dryswch i'm holl elynion;trônt yn ôl a'u cywilyddio'n sydyn.