1 Clyw fy nghri, O Dduw,a gwrando ar fy ngweddi;
2 o eithaf y ddaear yr wyf yn galw arnat,pan yw fy nghalon ar suddo.Arwain fi at graig sy'n uwch na mi;
3 oherwydd buost ti'n gysgod imi,yn dŵr cadarn rhag y gelyn.
4 Gad imi aros yn dy babell am byth,a llochesu dan gysgod dy adenydd.Sela
5 Oherwydd clywaist ti, O Dduw, fy addunedau,a gwnaethost ddymuniad y rhai sy'n ofni dy enw.