1 Yn wir, yn Nuw yr ymdawela fy enaid;oddi wrtho ef y daw fy ngwaredigaeth.
2 Ef yn wir yw fy nghraig a'm gwaredigaeth,fy amddiffynfa, fel na'm symudir.
3 Am ba hyd yr ymosodwch ar ddyn,bob un ohonoch, a'i falurio,fel mur wedi gogwyddoa chlawdd ar syrthio?
4 Yn wir, cynlluniant i'w dynnu i lawr o'i safle,ac y maent yn ymhyfrydu mewn twyll;y maent yn bendithio â'u genau,ond ynddynt eu hunain yn melltithio.Sela