2 Ef yn wir yw fy nghraig a'm gwaredigaeth,fy amddiffynfa, fel na'm symudir.
3 Am ba hyd yr ymosodwch ar ddyn,bob un ohonoch, a'i falurio,fel mur wedi gogwyddoa chlawdd ar syrthio?
4 Yn wir, cynlluniant i'w dynnu i lawr o'i safle,ac y maent yn ymhyfrydu mewn twyll;y maent yn bendithio â'u genau,ond ynddynt eu hunain yn melltithio.Sela
5 Yn wir, yn Nuw yr ymdawela fy enaid;oddi wrtho ef y daw fy ngobaith.
6 Ef yn wir yw fy nghraig a'm gwaredigaeth,fy amddiffynfa, fel na'm symudir.
7 Ar Dduw y dibynna fy ngwaredigaeth a'm hanrhydedd;fy nghraig gadarn, fy noddfa yw Duw.
8 Ymddiriedwch ynddo bob amser, O bobl,tywalltwch allan eich calon iddo;Duw yw ein noddfa.Sela