20 Duw sy'n gwaredu yw ein Duw ni;gan yr ARGLWYDD Dduw y mae dihangfa rhag marwolaeth.
21 Yn wir, bydd Duw'n dryllio pennau ei elynion,pob copa gwalltog, pob un sy'n rhodio mewn euogrwydd.
22 Dywedodd yr Arglwydd, “Dof â hwy'n ôl o Basan,dof â hwy'n ôl o waelodion y môr,
23 er mwyn iti drochi dy droed mewn gwaed,ac i dafodau dy gŵn gael eu cyfran o'r gelynion.”
24 Gwelir dy orymdeithiau, O Dduw,gorymdeithiau fy Nuw, fy Mrenin, i'r cysegr—
25 y cantorion ar y blaen a'r offerynwyr yn dilyn,a rhyngddynt forynion yn canu tympanau.
26 Yn y gynulleidfa y maent yn bendithio Duw,a'r ARGLWYDD yng nghynulliad Israel.