11 Duw sydd farnwr cyfiawn,a Duw sy'n dedfrydu bob amser.
12 Yn wir, y mae'r drygionus yn hogi ei gleddyf eto,yn plygu ei fwa ac yn ei wneud yn barod;
13 y mae'n darparu ei arfau marwol,ac yn gwneud ei saethau'n danllyd.
14 Y mae'n feichiog o ddrygioni,yn cenhedlu niwed ac yn geni twyll.
15 Y mae'n cloddio pwll ac yn ei geibio,ac yn syrthio i'r twll a wnaeth.
16 Fe ddychwel ei niwed arno ef ei hun,ac ar ei ben ef y disgyn ei drais.
17 Diolchaf i'r ARGLWYDD am ei gyfiawnder,a chanaf fawl i enw'r ARGLWYDD Goruchaf.