6 Saf i fyny, O ARGLWYDD, yn dy ddig;cyfod yn erbyn llid fy ngelynion;deffro, fy Nuw, i drefnu barn.
7 Bydded i'r bobloedd ymgynnull o'th amgylch;eistedd dithau'n oruchel uwch eu pennau.
8 O ARGLWYDD, sy'n barnu pobloedd,barna fi yn ôl fy nghyfiawnder, O ARGLWYDD,ac yn ôl y cywirdeb sydd ynof.
9 Bydded diwedd ar ddrygioni'r drygionus,ond cadarnha di y cyfiawn,ti sy'n profi meddyliau a chalonnau,ti Dduw cyfiawn.
10 Duw yw fy nharian,ef sy'n gwaredu'r cywir o galon.
11 Duw sydd farnwr cyfiawn,a Duw sy'n dedfrydu bob amser.
12 Yn wir, y mae'r drygionus yn hogi ei gleddyf eto,yn plygu ei fwa ac yn ei wneud yn barod;