1 Yn sicr, da yw Duw i'r uniawn,a'r Arglwydd i'r rhai pur o galon.
2 Yr oedd fy nhraed bron â baglu,a bu ond y dim i'm gwadnau lithro,
3 am fy mod yn cenfigennu wrth y trahausac yn eiddigeddus o lwyddiant y drygionus.
4 Oherwydd nid oes ganddynt hwy ofidiau;y mae eu cyrff yn iach a graenus.