2 Yr oedd fy nhraed bron â baglu,a bu ond y dim i'm gwadnau lithro,
3 am fy mod yn cenfigennu wrth y trahausac yn eiddigeddus o lwyddiant y drygionus.
4 Oherwydd nid oes ganddynt hwy ofidiau;y mae eu cyrff yn iach a graenus.
5 Nid ydynt hwy mewn helynt fel pobl eraill,ac nid ydynt hwy'n cael eu poenydio fel eraill.
6 Am hynny, y mae balchder yn gadwyn am eu gyddfau,a thrais yn wisg amdanynt.
7 Y mae eu llygaid yn disgleirio o fraster,a'u calonnau'n gorlifo o ffolineb.
8 Y maent yn gwawdio ac yn siarad yn ddichellgar,yn sôn yn ffroenuchel am ormes.