7 ond Duw fydd yn barnu—yn darostwng y naill ac yn codi'r llall.
8 Oherwydd y mae cwpan yn llaw'r ARGLWYDD,a'r gwin yn ewynnu ac wedi ei gymysgu;fe dywallt ddiod ohono,a bydd holl rai drygionus y ddaearyn ei yfed i'r gwaelod.
9 Ond clodforaf fi am byth,a chanaf fawl i Dduw Jacob,
10 am ei fod yn torri ymaith holl gyrn y drygionus,a chyrn y cyfiawn yn cael eu dyrchafu.