2 Rhoesant gyrff dy weisionyn fwyd i adar yr awyr,a chnawd dy ffyddloniaid i'r bwystfilod.
3 Y maent wedi tywallt gwaed fel dŵro amgylch Jerwsalem,ac nid oes neb i'w claddu.
4 Aethom yn watwar i'n cymdogion,yn wawd a dirmyg i'r rhai o'n cwmpas.
5 Am ba hyd, ARGLWYDD? A fyddi'n ddig am byth?A yw dy eiddigedd i losgi fel tân?
6 Tywallt dy lid ar y cenhedloeddnad ydynt yn dy adnabod,ac ar y teyrnasoeddnad ydynt yn galw ar dy enw,
7 am iddynt ysu Jacoba difetha ei drigfan.
8 Paid â dal yn ein herbyn ni ddrygioni ein hynafiaid,ond doed dy dosturi atom ar frys,oherwydd fe'n darostyngwyd yn llwyr.