7 Pan waeddaist mewn cyfyngder, gwaredais di,ac atebais di yn ddirgel yn y taranau;profais di wrth ddyfroedd Meriba.Sela
8 Gwrando, fy mhobl, a dygaf dystiolaeth yn dy erbyn.O na fyddit yn gwrando arnaf fi, Israel!
9 Na fydded gennyt dduw estron,a phaid ag ymostwng i dduw dieithr.
10 Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw,a'th ddygodd i fyny o'r Aifft;agor dy geg, ac fe'i llanwaf.
11 Ond ni wrandawodd fy mhobl ar fy llais,ac nid oedd Israel yn fodlon arnaf;
12 felly anfonais hwy ymaith yn eu cyndynrwyddi wneud fel yr oeddent yn dymuno.
13 “O na fyddai fy mhobl yn gwrando arnaf,ac na fyddai Israel yn rhodio yn fy ffyrdd!