1 O Dduw, paid â bod yn ddistaw;paid â thewi nac ymdawelu, O Dduw.
2 Edrych fel y mae dy elynion yn terfysgu,a'r rhai sy'n dy gasáu yn codi eu pennau.
3 Gwnânt gynlluniau cyfrwys yn erbyn dy bobl,a gosod cynllwyn yn erbyn y rhai a amddiffynni,
4 a dweud, “Dewch, inni eu difetha fel cenedl,fel na chofir enw Israel mwyach.”