11 Gwna eu mawrion fel Oreb a Seeba'u holl dywysogion fel Seba a Salmunna,
12 y rhai a ddywedodd, “Meddiannwn i ni ein hunainholl borfeydd Duw.”
13 O fy Nuw, gwna hwy fel hadau hedegog,fel us o flaen gwynt.
14 Fel tân yn difa coedwig,fel fflamau'n llosgi mynydd,
15 felly yr ymlidi hwy â'th storm,a'u brawychu â'th gorwynt.
16 Gwna eu hwynebau'n llawn cywilydd,er mwyn iddynt geisio dy enw, O ARGLWYDD.
17 Bydded iddynt aros mewn gwarth a chywilydd am byth,ac mewn gwaradwydd difether hwy.