4 a dweud, “Dewch, inni eu difetha fel cenedl,fel na chofir enw Israel mwyach.”
5 Cytunasant yn unfryd â'i gilydd,a gwneud cynghrair i'th erbyn—
6 pebyll Edom a'r Ismaeliaid,Moab a'r Hagariaid,
7 Gebal, Ammon ac Amalec,Philistia a thrigolion Tyrus;
8 Asyria hefyd a unodd gyda hwy,a chynnal breichiau tylwyth Lot.Sela
9 Gwna iddynt fel y gwnaethost i Sisera,ac i Jabin wrth nant Cison,
10 ac i Midian, a ddinistriwyd wrth ffynnon Haroda mynd yn dom ar y ddaear.