3 Cafodd hyd yn oed aderyn y to gartref,a'r wennol nyth iddi ei hun,lle mae'n magu ei chywion, wrth dy allorau di,O ARGLWYDD y Lluoedd, fy Mrenin a'm Duw.
4 Gwyn eu byd y rhai sy'n trigo yn dy dŷ,yn canu mawl i ti'n wastadol.
5 Gwyn eu byd y rhai yr wyt ti'n noddfa iddynt,a ffordd y pererinion yn eu calon.
6 Wrth iddynt fynd trwy ddyffryn Bacafe'i cânt yn ffynnon;bydd y glaw cynnar yn ei orchuddio â bendith.
7 Ânt o nerth i nerth,a bydd Duw y duwiau yn ymddangos yn Seion.
8 O ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd, clyw fy ngweddi;gwrando arnaf, O Dduw Jacob.Sela
9 Edrych ar ein tarian, O Dduw;rho ffafr i'th eneiniog.