5 Gwyn eu byd y rhai yr wyt ti'n noddfa iddynt,a ffordd y pererinion yn eu calon.
6 Wrth iddynt fynd trwy ddyffryn Bacafe'i cânt yn ffynnon;bydd y glaw cynnar yn ei orchuddio â bendith.
7 Ânt o nerth i nerth,a bydd Duw y duwiau yn ymddangos yn Seion.
8 O ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd, clyw fy ngweddi;gwrando arnaf, O Dduw Jacob.Sela
9 Edrych ar ein tarian, O Dduw;rho ffafr i'th eneiniog.
10 Gwell yw diwrnod yn dy gynteddau dina mil gartref;gwell sefyll wrth y drws yn nhŷ fy Nuwna thrigo ym mhebyll drygioni.
11 Oherwydd haul a tharian yw'r ARGLWYDD Dduw;rhydd ras ac anrhydedd.Nid atal yr ARGLWYDD unrhyw ddaionioddi wrth y rhai sy'n rhodio'n gywir.