1 O Arglwydd, buost drugarog wrth dy dir;adferaist lwyddiant i Jacob.
2 Maddeuaist gamwedd dy bobl,a dileu eu holl bechod.Sela
3 Tynnaist dy holl ddigofaint yn ôl,a throi oddi wrth dy lid mawr.
4 Adfer ni eto, O Dduw ein hiachawdwriaeth,a rho heibio dy ddicter tuag atom.