1 Canaf byth am dy gariad, O ARGLWYDD,ac â'm genau mynegaf dy ffyddlondeb dros y cenedlaethau;
2 oherwydd y mae dy gariad wedi ei sefydlu dros byth,a'th ffyddlondeb mor sicr â'r nefoedd.
3 Dywedaist, “Gwneuthum gyfamod â'm hetholedig,a thyngu wrth Ddafydd fy ngwas,
4 ‘Gwnaf dy had yn sefydlog am byth,a sicrhau dy orsedd dros y cenedlaethau.’ ”Sela
5 Bydded i'r nefoedd foliannu dy ryfeddodau, O ARGLWYDD,a'th ffyddlondeb yng nghynulliad y rhai sanctaidd.
6 Oherwydd pwy yn y nefoedd a gymherir â'r ARGLWYDD?Pwy ymysg y duwiau sy'n debyg i'r ARGLWYDD,
7 yn Dduw a ofnir yng nghyngor y rhai sanctaidd,yn fawr ac ofnadwy goruwch pawb o'i amgylch?