10 Ti a ddrylliodd Rahab yn gelain;gwasgeraist dy elynion â nerth dy fraich.
11 Eiddot ti yw'r nefoedd, a'r ddaear hefyd;ti a seiliodd y byd a'r cyfan sydd ynddo.
12 Ti a greodd ogledd a de;y mae Tabor a Hermon yn moliannu dy enw.
13 Y mae gennyt ti fraich nerthol;y mae dy law yn gref, dy ddeheulaw wedi ei chodi.
14 Cyfiawnder a barn yw sylfaen dy orsedd;y mae cariad a gwirionedd yn mynd o'th flaen.
15 Gwyn eu byd y bobl sydd wedi dysgu dy glodfori,sy'n rhodio, ARGLWYDD, yng ngoleuni dy wyneb,
16 sy'n gorfoleddu bob amser yn dy enw,ac yn llawenhau yn dy gyfiawnder.