12 Ti a greodd ogledd a de;y mae Tabor a Hermon yn moliannu dy enw.
13 Y mae gennyt ti fraich nerthol;y mae dy law yn gref, dy ddeheulaw wedi ei chodi.
14 Cyfiawnder a barn yw sylfaen dy orsedd;y mae cariad a gwirionedd yn mynd o'th flaen.
15 Gwyn eu byd y bobl sydd wedi dysgu dy glodfori,sy'n rhodio, ARGLWYDD, yng ngoleuni dy wyneb,
16 sy'n gorfoleddu bob amser yn dy enw,ac yn llawenhau yn dy gyfiawnder.
17 Oherwydd ti yw gogoniant eu nerth,a thrwy dy ffafr di y dyrchefir ein corn.
18 Oherwydd y mae ein tarian yn eiddo i'r ARGLWYDD,a'n brenin i Sanct Israel.