19 Gynt lleferaist mewn gweledigaethwrth dy ffyddloniaid a dweud,“Gosodais goron ar un grymus,a dyrchafu un a ddewiswyd o blith y bobl.
20 Cefais Ddafydd, fy ngwas,a'i eneinio â'm holew sanctaidd;
21 bydd fy llaw yn gadarn gydag ef,a'm braich yn ei gryfhau.
22 Ni fydd gelyn yn drech nag ef,na'r drygionus yn ei ddarostwng.
23 Drylliaf ei elynion o'i flaen,a thrawaf y rhai sy'n ei gasáu.
24 Bydd fy ffyddlondeb a'm cariad gydag ef,ac yn fy enw i y dyrchefir ei gorn.
25 Gosodaf ei law ar y môr,a'i ddeheulaw ar yr afonydd.