22 Ni fydd gelyn yn drech nag ef,na'r drygionus yn ei ddarostwng.
23 Drylliaf ei elynion o'i flaen,a thrawaf y rhai sy'n ei gasáu.
24 Bydd fy ffyddlondeb a'm cariad gydag ef,ac yn fy enw i y dyrchefir ei gorn.
25 Gosodaf ei law ar y môr,a'i ddeheulaw ar yr afonydd.
26 Bydd yntau'n galw arnaf, ‘Fy nhad wyt ti,fy Nuw a chraig fy iachawdwriaeth.’
27 A gwnaf finnau ef yn gyntafanedig,yn uchaf o frenhinoedd y ddaear.
28 Cadwaf fy ffyddlondeb iddo hyd byth,a bydd fy nghyfamod ag ef yn sefydlog.