24 Bydd fy ffyddlondeb a'm cariad gydag ef,ac yn fy enw i y dyrchefir ei gorn.
25 Gosodaf ei law ar y môr,a'i ddeheulaw ar yr afonydd.
26 Bydd yntau'n galw arnaf, ‘Fy nhad wyt ti,fy Nuw a chraig fy iachawdwriaeth.’
27 A gwnaf finnau ef yn gyntafanedig,yn uchaf o frenhinoedd y ddaear.
28 Cadwaf fy ffyddlondeb iddo hyd byth,a bydd fy nghyfamod ag ef yn sefydlog.
29 Rhof iddo linach am byth,a'i orsedd fel dyddiau'r nefoedd.
30 Os bydd ei feibion yn gadael fy nghyfraith,a heb rodio yn fy marnau,