33 ond ni throf fy nghariad oddi wrtho,na phallu yn fy ffyddlondeb.
34 Ni thorraf fy nghyfamod,na newid gair a aeth o'm genau.
35 Unwaith am byth y tyngais i'm sancteiddrwydd,ac ni fyddaf yn twyllo Dafydd.
36 Fe barha ei linach am byth,a'i orsedd cyhyd â'r haul o'm blaen.
37 Bydd wedi ei sefydlu am byth fel y lleuad,yn dyst ffyddlon yn y nef.”Sela
38 Ond eto yr wyt wedi gwrthod, a throi heibio,a digio wrth dy eneiniog.
39 Yr wyt wedi dileu'r cyfamod â'th was,wedi halogi ei goron a'i thaflu i'r llawr.