35 Unwaith am byth y tyngais i'm sancteiddrwydd,ac ni fyddaf yn twyllo Dafydd.
36 Fe barha ei linach am byth,a'i orsedd cyhyd â'r haul o'm blaen.
37 Bydd wedi ei sefydlu am byth fel y lleuad,yn dyst ffyddlon yn y nef.”Sela
38 Ond eto yr wyt wedi gwrthod, a throi heibio,a digio wrth dy eneiniog.
39 Yr wyt wedi dileu'r cyfamod â'th was,wedi halogi ei goron a'i thaflu i'r llawr.
40 Yr wyt wedi dryllio ei holl furiau,a gwneud ei geyrydd yn adfeilion.
41 Y mae pawb sy'n mynd heibio yn ei ysbeilio;aeth yn warth i'w gymdogion.