38 Ond eto yr wyt wedi gwrthod, a throi heibio,a digio wrth dy eneiniog.
39 Yr wyt wedi dileu'r cyfamod â'th was,wedi halogi ei goron a'i thaflu i'r llawr.
40 Yr wyt wedi dryllio ei holl furiau,a gwneud ei geyrydd yn adfeilion.
41 Y mae pawb sy'n mynd heibio yn ei ysbeilio;aeth yn warth i'w gymdogion.
42 Dyrchefaist ddeheulaw ei wrthwynebwyr,a gwneud i'w holl elynion lawenhau.
43 Yn wir, troist yn ôl fin ei gleddyf,a pheidio â'i gynnal yn y frwydr.
44 Drylliaist ei deyrnwialen o'i law,a bwrw ei orsedd i'r llawr.