41 Y mae pawb sy'n mynd heibio yn ei ysbeilio;aeth yn warth i'w gymdogion.
42 Dyrchefaist ddeheulaw ei wrthwynebwyr,a gwneud i'w holl elynion lawenhau.
43 Yn wir, troist yn ôl fin ei gleddyf,a pheidio â'i gynnal yn y frwydr.
44 Drylliaist ei deyrnwialen o'i law,a bwrw ei orsedd i'r llawr.
45 Yr wyt wedi byrhau dyddiau ei ieuenctid,ac wedi ei orchuddio â chywilydd.Sela
46 Am ba hyd, ARGLWYDD? A fyddi'n ymguddio am byth,a'th eiddigedd yn llosgi fel tân?
47 Cofia mor feidrol ydwyf fi;ai yn ofer y creaist yr holl bobloedd?