2 Cyn geni'r mynyddoedd,a chyn esgor ar y ddaear a'r byd,o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ti sydd Dduw.
3 Yr wyt yn troi pobl yn ôl i'r llwch,ac yn dweud, “Trowch yn ôl, chwi feidrolion.”
4 Oherwydd y mae mil o flynyddoedd yn dy olwgfel doe sydd wedi mynd heibio,ac fel gwyliadwriaeth yn y nos.
5 Yr wyt yn eu sgubo ymaith fel breuddwyd;y maent fel gwellt yn adfywio yn y bore—
6 yn tyfu ac yn adfywio yn y bore,ond erbyn yr hwyr yn gwywo ac yn crino.
7 Oherwydd yr ydym ni yn darfod gan dy ddig,ac wedi'n brawychu gan dy gynddaredd.
8 Gosodaist ein camweddau o'th flaen,ein pechodau dirgel yng ngoleuni dy wyneb.