1 Y mae'r sawl sy'n byw yn lloches y Goruchaf,ac yn aros yng nghysgod yr Hollalluog,
2 yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Fy noddfa a'm caer,fy Nuw, yr un yr ymddiriedaf ynddo.”
3 Oherwydd bydd ef yn dy waredu o fagl heliwr,ac oddi wrth bla difaol;
4 bydd yn cysgodi drosot â'i esgyll,a chei nodded dan ei adenydd;bydd ei wirionedd yn darian a bwcled.