5 Ni fyddi'n ofni rhag dychryn y nos,na rhag saeth yn hedfan yn y dydd,
6 rhag pla sy'n tramwyo yn y tywyllwch,na rhag dinistr sy'n difetha ganol dydd.
7 Er i fil syrthio wrth dy ochr,a deng mil ar dy ddeheulaw,eto ni chyffyrddir â thi.
8 Ni fyddi ond yn edrych â'th lygaidac yn gweld tâl y drygionus.
9 Ond i ti, bydd yr ARGLWYDD yn noddfa;gwnaethost y Goruchaf yn amddiffynfa;
10 ni ddigwydd niwed i ti,ac ni ddaw pla yn agos i'th babell.
11 Oherwydd rhydd orchymyn i'w angylioni'th gadw yn dy holl ffyrdd;