8 Ni fyddi ond yn edrych â'th lygaidac yn gweld tâl y drygionus.
9 Ond i ti, bydd yr ARGLWYDD yn noddfa;gwnaethost y Goruchaf yn amddiffynfa;
10 ni ddigwydd niwed i ti,ac ni ddaw pla yn agos i'th babell.
11 Oherwydd rhydd orchymyn i'w angylioni'th gadw yn dy holl ffyrdd;
12 byddant yn dy godi ar eu dwylorhag iti daro dy droed yn erbyn carreg.
13 Byddi'n troedio ar y llew a'r asb,ac yn sathru'r llew ifanc a'r sarff.
14 “Am iddo lynu wrthyf, fe'i gwaredaf;fe'i diogelaf am ei fod yn adnabod fy enw.