1 Y mae'r ARGLWYDD yn frenin; y mae wedi ei wisgo â mawredd,y mae'r ARGLWYDD wedi ei wisgo, a nerth yn wregys iddo.Yn wir, y mae'r byd yn sicr, ac nis symudir;
2 y mae dy orsedd wedi ei sefydlu erioed;yr wyt ti er tragwyddoldeb.
3 Cododd y dyfroedd, O ARGLWYDD,cododd y dyfroedd eu llais,cododd y dyfroedd eu rhu.
4 Cryfach na sŵn dyfroedd mawrion,cryfach na thonnau'r môr,yw'r ARGLWYDD yn yr uchelder.