2 Y mae cymylau a thywyllwch o'i amgylch,cyfiawnder a barn yn sylfaen i'w orsedd.
3 Y mae tân yn mynd o'i flaen,ac yn llosgi ei elynion oddi amgylch.
4 Y mae ei fellt yn goleuo'r byd,a'r ddaear yn gweld ac yn crynu.
5 Y mae'r mynyddoedd yn toddi fel cwyr o flaen yr ARGLWYDD,o flaen Arglwydd yr holl ddaear.
6 Y mae'r nefoedd yn cyhoeddi ei gyfiawnder,a'r holl bobloedd yn gweld ei ogoniant.
7 Bydded cywilydd ar yr holl addolwyr delwausy'n ymffrostio mewn eilunod;ymgrymwch iddo ef, yr holl dduwiau.
8 Clywodd Seion a llawenhau,ac yr oedd trefi Jwda yn gorfoledduo achos dy farnedigaethau, O ARGLWYDD.