8 Clywodd Seion a llawenhau,ac yr oedd trefi Jwda yn gorfoledduo achos dy farnedigaethau, O ARGLWYDD.
9 Oherwydd yr wyt ti, ARGLWYDD, yn oruchaf dros yr holl ddaear;yr wyt wedi dy ddyrchafu'n uwch o lawer na'r holl dduwiau.
10 Y mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai sy'n casáu drygioni,y mae'n cadw bywydau ei ffyddloniaid,ac yn eu gwaredu o ddwylo'r drygionus.
11 Heuwyd goleuni ar y cyfiawn,a llawenydd ar yr uniawn o galon.
12 Llawenhewch yn yr ARGLWYDD, rai cyfiawn,a moliannwch ei enw sanctaidd.