1 Canwch i'r ARGLWYDD gân newydd,oherwydd gwnaeth ryfeddodau.Cafodd fuddugoliaeth â'i ddeheulawac â'i fraich sanctaidd.
2 Gwnaeth yr ARGLWYDD ei fuddugoliaeth yn hysbys,datguddiodd ei gyfiawnder o flaen y cenhedloedd.
3 Cofiodd ei gariad a'i ffyddlondebtuag at dŷ Israel;gwelodd holl gyrrau'r ddaearfuddugoliaeth ein Duw.
4 Bloeddiwch mewn gorfoledd i'r ARGLWYDD, yr holl ddaear,canwch mewn llawenydd a rhowch fawl.
5 Canwch fawl i'r ARGLWYDD â'r delyn,â'r delyn ac â sain cân.