2 Gwnaeth yr ARGLWYDD ei fuddugoliaeth yn hysbys,datguddiodd ei gyfiawnder o flaen y cenhedloedd.
3 Cofiodd ei gariad a'i ffyddlondebtuag at dŷ Israel;gwelodd holl gyrrau'r ddaearfuddugoliaeth ein Duw.
4 Bloeddiwch mewn gorfoledd i'r ARGLWYDD, yr holl ddaear,canwch mewn llawenydd a rhowch fawl.
5 Canwch fawl i'r ARGLWYDD â'r delyn,â'r delyn ac â sain cân.
6 Â thrwmpedau ac â sain utgornbloeddiwch o flaen y Brenin, yr ARGLWYDD.
7 Rhued y môr a'r cyfan sydd ynddo,y byd a phawb sy'n byw ynddo.
8 Bydded i'r dyfroedd guro dwylo;bydded i'r mynyddoedd ganu'n llawen gyda'i gilydd