1 Y mae'r ARGLWYDD yn frenin, cryna'r bobloedd;y mae wedi ei orseddu uwch y cerwbiaid, ysgydwa'r ddaear.
2 Y mae'r ARGLWYDD yn fawr yn Seion,y mae'n ddyrchafedig uwch yr holl bobloedd.
3 Bydded iddynt foli dy enw mawr ac ofnadwy—sanctaidd yw ef.
4 Un cryf sydd frenin; y mae'n caru cyfiawnder.Ti sydd wedi sefydlu uniondeb;gwnaethost farn a chyfiawnder yn Jacob.
5 Dyrchafwch yr ARGLWYDD ein Duw;ymgrymwch o flaen ei droedfainc—sanctaidd yw ef.