5 Dyrchafwch yr ARGLWYDD ein Duw;ymgrymwch o flaen ei droedfainc—sanctaidd yw ef.
6 Yr oedd Moses ac Aaron ymhlith ei offeiriaid,a Samuel ymhlith y rhai a alwodd ar ei enw;galwasant ar yr ARGLWYDD, ac atebodd hwy.
7 Llefarodd wrthynt mewn colofn gwmwl;cadwasant ei dystiolaethau a'r ddeddf a roddodd iddynt.
8 O ARGLWYDD, ein Duw, atebaist hwy;Duw yn maddau fuost iddynt,ond yn dial eu camweddau.
9 Dyrchafwch yr ARGLWYDD ein Duw,ymgrymwch yn ei fynydd sanctaidd—sanctaidd yw'r ARGLWYDD ein Duw.