Salm 10 SC

SALM X

Vt quid Domine.

Achwyn rhag trais cedyrn bydol.

1 Arglwydd pa’m y sefi di,oddi wrthym ni cyn belled?Pa’m yr ymguddi di i’th rym,pam ydym mewn caethiwed?

2 Y drygrai sydd yn blino’r tlawd,gan drallawd, a chan falchder:Yn y dichellion a wnai’ rhai’n,hwynt hwy eu hunain dalier.

3 Hoff gan ddyn drwg ei chwant ei hun,pawb yn gytun â’i bechod:Bendithio mael ydyw eu swydd,a’r Arglwydd maent iw wrthod.

4 Yr annuwiol ni chais Dduw ner,(mae ef iw falchder cyfuwch:)Ni chred ef, ac ni feddwl fod,un fâth awdurdod goruwch.

5 Am fod ei ffyrdd mewn lwyddiant hir,ni wyl mo’th wir gyfammod:Bydd dordyn wrth elynion mân,fel chwythu tân mewn sorod.

6 Fe ddwedodd hyn â’i feddwl syth,ni ddigwydd byth i’m adfyd:Ni’m symudir o oes i oes,ni chaf na gloes, na drygfyd.

7 Yn ddichellgar, yn dwyllgar iawn,a’i safn yn llawn melldithion:Tan ei dafod y mae camwedd,a thraws enwiredd creulon.

8 Mewn cilfechydd y disgwyl fani lâdd y truan gwirion:Ac ar y tlawd â llygad llymyn dangos grym ei galon.

9 Fe orwedd fel y llew iw ffau,i fwrw ei faglau trowsion:y gwan a’r tlawd a dynn iw rwyd,ac yno y daliwyd gwirion.

10 Fe duchan, fe a ’mgrymma ei hun,fel un ar farw o wendid,Ac ef yn grym â fel yn wael,ar wan i gael ei ergyd.

11 Yn ei galon, dwedodd am Dduw,nad ydyw yn gofiadur:Cuddiodd ei wyneb, ac ni welpa beth a wnel creadur.

12 Cyfod Arglwydd, dercha dy law,dy fod i’n cofiaw dangos:Ac nag anghofia, pan fo rhaid,dy weiniaid a’th werinos.

13 Paham y cablant hwy wir Dduw,yr enwir annuw lledffrom?Pam’ y meddyliant arnat tinad ymofynni am danom?

14 Gwelaist hyn:cans canfyddi drais,a chospi falais anfad:Tydi yw gobaith tlawd, a’i borth,a chymorth yr ymddifad.

15 Tor ymaith yr annuwiol rymyn gyflym, a’r maleisus,Cais allan eu hanwiredd hwy,ni chai di mwy’n ddrygionus.

16 Yr Arglwydd sydd yn frenin byth,ef yw’r gwehelyth lywydd:Distrywiwyd pob cenhedlaeth grefo’i dir ef, yn dragywydd.

17 Duw, gweddi’r gwan a glywaist di,ac a gysuri’r galon:Tro eilwaith attom’ y glust dau,a chlyw weddiau ffyddlon.

18 Tros yr ymddifaid y rhoi farn,a’r gwan fydd cadarn bellach:Megis nas gall daiarol ddynmo’r pwyso arnyn mwyach.